Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 27 Mehefin
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4300
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Carwyn Jones: Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (y DUP)
Derbyniwyd y cynnig i gynnal dadl frys o dan Reol Sefydlog 12.69, ar gytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (y DUP), yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Cyhoeddodd y Llywydd y byddai’r ddadl yn cael ei chynnal cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Dechreuodd yr eitem am 14.43
Dechreuodd yr eitem am 15.52
Dechreuodd yr eitem am 16.34
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6339 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i ddatgarboneiddio sector cyhoeddus Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r economi carbon isel.
3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n garbon niwtral erbyn 2030.
4. Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y gweill a fydd yn ceisio sylwadau ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r sector cyhoeddus.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu mai araf yw'r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ei hymdrechion i bennu Cyllideb Garbon ar gyfer 2016-2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
7 |
30 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod angen i'r darpariaethau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 sy'n ymwneud â datblygu cynaliadwy gael mwy o ddylanwad dros Lywodraeth Cymru o ran pennu ei chyllideb ei hun.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
30 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cwmni ynni cenedlaethol di-ddifidend, hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda'r diben o gynyddu effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu trydan adnewyddadwy yn y sector cyhoeddus fel rhan o'i gylch gwaith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
10 |
29 |
47 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i leihau llygredd aer fel rhan o'i ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i'r sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
5 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol tebyg
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
5 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6339 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi arweiniad Llywodraeth Cymru o safbwynt rhoi ar waith gamau gweithredu i ddatgarboneiddio sector cyhoeddus Cymru, a hynny'n unol â'i hymrwymiadau statudol o fewn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus er mwyn rhoi hwb pellach i'r economi carbon isel.
3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru'n garbon niwtral erbyn 2030.
4. Yn nodi'r cais am dystiolaeth sydd ar y gweill a fydd yn ceisio sylwadau ynghylch y dull ar gyfer datgarboneiddio'r sector cyhoeddus.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys mesurau i leihau llygredd aer fel rhan o'i ffordd o ddatgarboneiddio yn y sector cyhoeddus.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i'r sector cyhoeddus i ddarparu pwyntiau gwefru trydan ar gyfer cerbydau ar safle at ddefnydd cyflogeion ac ymwelwyr.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cymorth i gyrff cyhoeddus i ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy ddefnyddio cerbydau hydrogen ac LPG a dyfeisiadau arloesol tebyg.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
5 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.15
NDM6351 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo'r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.28
Carwyn Jones: Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (y DUP)
Dechreuodd yr eitem am 18.34
Daeth y cyfarfod i ben am 18.37
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 28 Mehefin 2017